Maniffesto RPS ar gyfer Etholiad Cymru 2026

Maniffesto RPS ar gyfer Etholiad Cymru 2026

Mwyafu cyfraniad fferyllwyr er budd cleifion.

This was published when the organisation was the Royal Pharmaceutical Society.


Read in English

O ran niferoedd, fferyllwyr yw’r drydedd broffesiwn iechyd mwyaf, gan weithio ar draws fferyllfeydd cymunedol, practisau meddygon teulu, ysbytai, diwydiant, a rolau arweinyddiaeth ar draws y gwasanaeth iechyd. Nhw yw’r arbenigwyr clinigol mewn defnydd diogel ac effeithiol o feddyginiaethau—yr ymyrraeth fwyaf cyffredin mewn gofal iechyd.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae rôl glinigol fferyllwyr wedi ehangu’n gyflym, yn enwedig eu rôl mewn rhagnodi. Mae bron i 50% o fferyllwyr cofrestredig bellach yn rhagnodwyr cymwys, tra bydd pob fferyllydd newydd gymhwyso yn gallu rhagnodi o 2026, gyda tharged i bob fferyllydd fod yn ragnodwyr erbyn 2030. Yn ogystal, mae llawer hefyd yn arbenigo mewn amrywiaeth o feysydd clinigol fel iechyd meddwl, oncoleg, a gofal lliniarol.

Fodd bynnag, mae mwy i’w wneud o hyd i harneisio arbenigedd fferyllwyr yn llawn. Rhestrir ein pedwar galwad maniffesto ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru isod.

Drwy weithredu’r galwadau hyn, byddant yn:

  1. Cefnogi dull ataliol o leihau derbyniadau i’r ysbyty
  2. Sicrhau bod cleifion yn parhau i elwa o arbenigedd meddyginiaethau fferyllwyr a rôl glinigol gynyddol fferyllwyr
  3. Hyrwyddo defnydd diogel, effeithiol a chost-effeithlon o feddyginiaethau.

Rydym yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i weithio gyda ni a fferyllwyr yng Nghymru i wireddu’r galwadau hyn.

Galwad 1: Defnyddio arbenigedd fferyllwyr i leihau derbyniadau i’r ysbyty

Cyd-destun:

  • Mae adweithiau niweidiol i feddyginiaethau rhagnodedig yn cyfrif am 11% o dderbyniadau ysbyty oedolion heb eu cynllunio, gan godi i 18% mewn rhai ysbytai, gan gymryd 1-2% o gyllideb y GIG.1
  • Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi, hyd at 2026, y bydd 132,000 o bobl hŷn yn cwympo fwy nag unwaith yn eu cartref eu hunain bob blwyddyn, gyda 8,100 yn dioddef anaf difrifol ac yn gorffen yn yr ysbyty.2
  • Mae aml-fferylliaeth (polypharmacy) yn cynyddu’r risg o gwympo yn sylweddol, gyda phobl hŷn sy’n cymryd 10 neu fwy o feddyginiaethau â risg o 14.8% o gwympo, o’i gymharu â dim ond 1.5% o’r rhai nad ydynt ar unrhyw feddyginiaeth.3

Sut i weithredu

Sicrhau bod arbenigedd meddyginiaethau fferyllfa yn ganolog i wasanaethau eiddilwch (frailty) amlddisgyblaethol ar draws pob bwrdd iechyd.

Buddion
  • Yn lleihau derbyniadau ysbyty posibl neu debygol
  • Yn sicrhau diogelwch meddyginiaethau rhagnodedig i’r claf
  • Yn monitro cleifion am unrhyw sgîl-effeithiau posibl o’u meddyginiaethau
  • Yn cefnogi cleifion i lynu wrth eu trefn feddyginiaeth rhagnodedig
  • Yn helpu i reoli aml-fferyllfa, lle mae cleifion yn cymryd meddyginiaethau lluosog
  • Yn optimeiddio’r defnydd o feddyginiaethau i wella canlyniadau cleifion
  • Yn arwain at gyfleoedd ar gyfer cyngor ar ffordd o fyw a rhagnodi cymdeithasol
  • Yn cynnwys cleifion mewn penderfyniadau am eu meddyginiaeth, gan sicrhau bod eu safbwyntiau a’u pryderon yn cael eu clywed a’u trin.

Sut i weithredu

Sefydlu protocolau atgyfeirio ffurfiol sy’n caniatáu i fferyllwyr atgyfeirio cleifion yn uniongyrchol at wasanaethau eraill a’u galluogi i ofyn am brofion syml trwy lwybrau cleifion y cytunwyd arnynt pan fo atgyfeirio at feddyg teulu yw’r llwybr mwyaf priodol.

Buddion
  • Yn monitro cleifion am unrhyw sgîl-effeithiau posibl o’u meddyginiaethau
  • Yn cefnogi cleifion i lynu wrth eu cyfundrefn feddyginiaeth ragnodedig
  • Yn galluogi diagnosis ac ymyrraeth gynharach
  • Yn gwneud mwy o ddefnydd o hygyrchedd fferyllfeydd cymunedol – yn enwedig mewn ardaloedd mwy difreintiedig
  • Yn helpu i frwydro yn erbyn y gyfraith gofal gwrthdro (inverse care law) – gan sicrhau bod unigolion sy’n llai tebygol o ymgysylltu â’r system iechyd ehangach yn cael eu dal ac yn derbyn gofal yn gynharach
  • Yn gwella effeithlonrwydd ac yn gwella mynediad at driniaeth ac yn lleihau llwyth gwaith meddygon teulu
  • Yn defnyddio sgiliau fferyllwyr trwy ddefnyddio eu galluoedd clinigol.

Sut i weithredu

Codi proffil adrodd ar ddiogelwch meddyginiaethau ac adweithiau niweidiol i gyffuriau ar draws y GIG; gan sicrhau bod digwyddiadau sy’n gysylltiedig â meddyginiaethau yn cael eu hadrodd a’u gweithredu i wella diogelwch cleifion ac osgoi digwyddiadau ailadroddus.

Buddion
  • Yn lleihau’r risg o gamgymeriadau meddyginiaeth ac adweithiau niweidiol yn cael eu hailadrodd.
  • Yn galluogi gweithredu arfer da/mesurau ataliol ‘unwaith i Gymru’.
  • Yn galluogi dysgu o gamgymeriadau meddyginiaeth ‘unwaith i Gymru’.
  • Yn y pen draw, yn lleihau nifer yr achosion o gamgymeriadau sy’n gysylltiedig â meddyginiaeth a brofir gan gleifion yng Nghymru.
Galwad 2: Mynd i’r afael â gwastraff meddyginiaethau a gwaredu amhriodol

Cyd-destun

  • Yn 2023-24, roedd cyfanswm cost net cynhwysion yr holl eitemau a ragnodir trwy feddygfeydd teulu yng Nghymru ac a ddosberthir yn y gymuned ychydig dros £704 miliwn, sy’n cyfateb i £214.10 fesul claf sydd wedi’i gofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru4. Dylid pwysleisio mai dim ond meddyginiaethau a ragnodir mewn lleoliadau gofal sylfaenol y mae’r ffigurau hyn yn eu cyfrif. Bydd gwariant fferyllol ychwanegol sylweddol o fewn ysbytai, ond nid oes data manwl ar gael yn rhwydd.
  • Ar draws Cymru, amcangyfrifir bod gwerth £21.6 miliwn o feddyginiaethau rhagnodedig yn cael eu gwastraffu bob blwyddyn5
  • Er bod data penodol ar gyfer GIG Cymru yn gyfyngedig, mae amcangyfrifon gan GIG Lloegr yn awgrymu bod meddyginiaethau’n cyfrif am tua 25% o gyfanswm ôl troed carbon y GIG.6
  • AMae ymwrthedd i wrthficrobiaid (AMR) yn un o’r prif fygythiadau iechyd cyhoeddus byd-eang a nodwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd. Wedi’i achosi gan gamddefnyddio a gor-ddefnyddio gwrthficrobiaid, mae AMR yn peryglu enillion meddygaeth fodern trwy wneud heintiau’n anoddach i’w trin a gweithdrefnau fel llawdriniaeth, toriadau Cesaraidd, a chemotherapi canser yn llawer mwy peryglus.7
  • Mae meddygyniaethau, gan gynnwys gwrthfiotigau, gwrthiselyddion, a hormonau, yn cael eu canfod fwyfwy mewn dyfrffyrdd a thir fferm oherwydd ysgarthiad dynol a prosesau trin dŵr gwastraff annigonol, ac maen nhw’n peri risgiau sylweddol i iechyd pobl, anifeiliaid a’r amgylchedd.8

Sut i weithredu

Gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd o effaith gwastraff meddyginiaeth a gwaredu amhriodol drwy fuddsoddi mewn adnoddau sy’n wynebu’r cyhoedd ac annog gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i hysbysu ac addysgu cleifion ym mhob cyswllt.

Buddion
  • Yn lleihau gwariant y GIG ar feddyginiaethau – sy’n cyfrif am tua 10% o’r gyllideb iechyd
  • Yn lleihau allyriadau carbon y GIG – tua 25% ohono’n cael ei briodoli i feddyginiaethau
  • Yn gwella annibyniaeth cleifion ar eu meddyginiaeth eu hunain
  • Yn mynd i’r afael â gwrthsefyll gwrthficrobaidd
  • Yn annog cleifion i archebu’r hyn sydd ei angen arnynt yn unig (wedi’i annog gan Ap GIG Cymru)
  • Yn lleihau ‘stock-pilling’ a niwed posibl o feddyginiaethau ‘sydd wedi mynd heibio’ (out of date) yn cael eu defnyddio
  • Yn lleihau gwaredu amhriodol (e.e. fflysio neu daflu i lawr y sinc) sy’n niweidio ein hamgylchedd).

Sut i weithredu

Fel yr awgrymwyd yn flaenorol, cynyddu amlder adolygiadau meddyginiaethau dan arweiniad fferyllwyr ar gyfer cleifion sy’n cymryd sawl meddyginiaeth.

Buddion
  • Yn lleihau gwariant y GIG ar feddyginiaethau – sydd ar hyn o bryd yn cyfrif am tua 10% o gyllideb iechy
  • Yn lleihau allyriadau carbon y GIG – mae tua 25% ohonynt yn cael eu priodoli i feddyginiaethau. 
  • Yn hyrwyddo rhagnodi gwerth gorau
  • Yn nodi a oes angen i’r claf fod ar ei holl feddyginiaethau cyfredol o hyd
  • Yn arwain at ddad-ragnodi pan fo’n briodol.

Sut i weithredu

Hyrwyddo arloesedd drwy gefnogi ymchwil a mentrau sy’n:

  • Integreiddio data amgylcheddol i’r broses ragnodi
  • Archwilio ailddefnyddio meddyginiaethau’n ddiogel
  • Ac atal llygredd fferyllol afonydd, moroedd a thir fferm.
Buddion

Gallai roi cyfeiriad datblygiadau yn y dyfodol a allai:

  • Galluogi’r feddyginiaeth sydd â’r effaith amgylcheddol isaf i fod yn ddewis cyntaf pan fydd gan feddyginiaethau lluosog effeithiolrwydd clinigol cyfatebol
  • Lleihau lefel y gwastraff o’r amcangyfrif o 250 tunnell o feddyginiaethau presgripsiwn nas defnyddiwyd a ddychwelir i fferyllfeydd yng Nghymru bob blwyddyn
  • Caniatáu meddyginiaethau nas defnyddiwyd a ddosberthir ond a ganfuwyd eu bod yn dal i fod yn effeithiol yn glinigol ac yn ddiogel i’w defnyddioLleihau llygredd dŵr fferyllol – gall hyd yn oed symiau bach effeithio ar natur a bywyd morol
  • Mynd i’r afael â ymwrthedd gwrthficrobaidd.
Galwad 3: Rhoi’r strwythur a’r adnoddau ar waith sy’n galluogi fferyllwyr i wneud y gorau o’u sgiliau a darparu’r gofal cleifion gorau posibl

Cyd-destun

  • Datgelodd arolwg lles y gweithlu fferyllfa yn 2024 fod 88% o’r gweithlu fferyllfa yng Nghymru mewn perygl o losgi allan9
  • Canfu’r arolwg hefyd fod 73% o’r ymatebwyr wedi nodi nad oedd digon o amser dysgu wedi’i ddiogelu yn ystod oriau gwaith, gyda 46% yn nodi cydbwysedd gwael rhwng bywyd a gwaith o ganlyniad.
  • Ar 31 Mawrth 2024, roedd 689 o fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru, gostyngiad o 19 (2.7%) o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.10
  • Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru wrthi’n cyflwyno ei ‘Rhaglen Meddyginiaethau Digidol’ a’i brosiect i ddigideiddio sut mae meddyginiaethau’n cael eu rhagnodi, eu dosbarthu, eu gweinyddu, a sut mae cofnodion yn cael eu rhannu ar draws pob lleoliad gofal. Ei nod yw cefnogi gofal mwy diogel, mwy effeithlon, a chydgysylltiedig drwy ddisodli prosesau papur â systemau digidol.11

Sut i weithredu

Sicrhau bod cynlluniau swyddi fferyllwyr yng Nghymru yn cynnwys amser neilltuedig ar gyfer hyfforddiant, addysgu ac ymchwil.

Buddion
  • Yn hyrwyddo cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith sydd yn y pen draw yn arwain at well gofal i gleifion. Yn gwneud gyrfa mewn fferylliaeth yng Nghymru yn fwy deniadol – gan gefnogi cadw a recriwtio’r gweithlu.
  • Yn galluogi datblygu sgiliau (yn enwedig mewn presgripsiynu).
  • Yn galluogi datblygu rolau newydd ac yn meithrin gallu pellach o fewn timau amlddisgyblaethol.

Sut i weithredu

Cydnabod y pwysau difrifol ar fferyllfeydd cymunedol ac ymrwymo i adolygu’r fformiwla ariannu i alluogi cynaliadwyedd a thwf gwasanaethau clinigol.

Buddion
  • Yn gwrthdroi’r duedd o gau fferyllfeydd
  • Yn sicrhau bod cleifion yn parhau i elwa o arbenigedd fferyllwyr cymunedol
  • Yn annog darparu gofal yn agosach at adref
  • Yn galluogi mynediad cyfartal at ofal – yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd o amddifadedd uchel
  • Yn hwyluso datblygiad parhaus gwasanaethau clinigol sy’n hyfyw yn ariannol.

Sut i weithredu

Parhau i ddatblygu’r seilwaith digidol o amgylch defnyddio meddyginiaethau drwy sicrhau bod gweithredu presgripsiynu electronig a chofnod meddyginiaethau a rennir yn cael ei gwblhau.

Buddion
  • Yn lleihau amseroedd aros am bresgripsiynau a’r potensial ar gyfer presgripsiynau papur ‘coll’
  • Yn gwella diogelwch cleifion trwy leihau gwallau meddyginiaeth
  • Yn galluogi gwneud penderfyniadau gwell trwy roi hanesion meddyginiaeth cynhwysfawr i glinigwyr
  • Yn symleiddio llif gwaith ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan leihau beichiau gweinyddol
  • Yn hwyluso cyfathrebu mwy effeithlon rhwng timau gofal sylfaenol, eilaidd a chymunedol
  • Yn dileu effaith amgylcheddol presgripsiynau papur.
Galwad 4: Sicrhau cynaliadwyedd fferylliaeth yn y dyfodol drwy fuddsoddi yn hyfforddi, cadw a recriwtio ein gweithlu

Cyd-destun

  • Oherwydd prinder fferyllwyr, ychwanegwyd y proffesiwn at Restr Galwedigaethau Prinder y Swyddfa Gartref yn 2021.12
  • Er bod y data diweddaraf yn dangos twf bach yng nghanran y cynnydd yn nifer y fferyllwyr dros y pum mlynedd diwethaf, mae Cymru (8%), ar ei hôl hi o gymharu â Lloegr (15%) a’r Alban (13%) yn hyn o beth.13
  • Yn bryderus, mae’r bwlch yn nhwf fferyllwyr rhwng Cymru a gweddill Prydain Fawr wedi ehangu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o 4% i 7% o’i gymharu â Lloegr ac o 2% i 5% o’i gymharu â’r Alban.14
  • Mae data a rennir gyda RPS yn dangos cyfradd swyddi gwag gyfartalog ar gyfer fferyllfa o 20% ar draws pob rôl fferyllfa ysbyty15
  • Yn 2023 lansiodd Addysg a Gwella Iechyd Cymru ei Gynllun Gweithlu Fferyllol Strategol 10 mlynedd sy’n cynnwys ‘Denu a Recriwtio’ fel un o’i saith thema allweddol.s16
  • Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach yw gweledigaeth 2030 ar gyfer fferylliaeth yng Nghymru. Wedi’i lansio yn 2019, mae’r weledigaeth yn gosod uchelgeisiau hirdymor ar gyfer sut y bydd cleifion yn elwa o arbenigedd timau fferylliaeth erbyn 2030.17.

Sut i weithredu

Cefnogi a chyllido’r proffesiwn yn llawn i weithredu Cynllun Gweithlu Fferylliaeth Strategol AaGIC a’n gweledigaeth 2030; Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach.

Buddion
  • Bydd fferyllwyr yn cael sicrwydd o amser i uwchsgilio, gan ehangu eu cwmpas ymarfer a chaniatáu iddynt gefnogi gofal mwy cymhleth ym mhob lleoliad.
  • Bydd fferyllwyr yn cael eu cefnogi i ymgymryd ag addysg a datblygiad i ganiatáu iddynt ddiwallu angen penodol y boblogaeth e.e. i ddarparu ymyrraeth gynharach ar gyfer atal afiechydon, fel clefyd cardiofasgwlaidd.
  • Bydd gan fferyllwyr amser i ymgymryd â hyfforddiant i ddarparu gofal ataliol ac i alluogi’r boblogaeth i fyw bywydau iachach a mwy egnïol, gan gynnwys y rhai sy’n byw â chyflyrau hirdymor.

Sut i weithredu

Manteisio i’r eithaf ar y graddau fferylliaeth newydd yn Abertawe a Bangor (sy’n ategu’r radd hirhoedlog yng Nghaerdydd) drwy ddarparu adnoddau llawn ar gyfer blwyddyn hyfforddi ‘sylfaen’ amlsector Addysg a Gwella Cymru ar gyfer graddedigion newydd er mwyn bodloni’r galw cynyddol.

Buddion
  • Yn sicrhau y gall Cymru gefnogi ac yn y sefyllfa orau i gadw ein nifer gynyddol o raddedigion fferylliaeth
  • Yn mynd i’r afael â heriau recriwtio mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell drwy ehangu’r gronfa o fferyllwyr sydd ar gael i lenwi swyddi
  • Yn cynyddu nifer y fferyllwyr sy’n gallu darparu gwasanaethau ac ymgysylltu â chleifion yn y Gymraeg
  • Yn hyrwyddo gweithio amlsector yn ystod y flwyddyn hyfforddi i adeiladu gweithlu mwy hyblyg yn y dyfodol sy’n galluogi gyrfaoedd portffolio ac yn gwella llif cleifion a phontio gofal.

Cysylltu

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y maniffesto hwn, cysylltwch â:

[email protected]

Pennaeth Materion Allanol
Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Cymru